Disgwylir i ddatblygiadau sy’n gysylltiedig ag Ynys Ynni ddod â hwb sylweddol i’n heconomi a hynny yn ystod y cyfnod adeiladu â’r cyfnod gweithredol. Mae’r manteision hyn eisoes yn dechrau amlygu eu hunain.
Mae Cyngor Sir Ynys Môn a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn gweithio’n galed gyda pherchnogion y prosiect a rhanddeiliaid allweddol er mwyn sicrhau bod y buddion economaidd - swyddi i bobl leol a gwaith ar gyfer busnesau lleol - yn aros yn lleol a rhanbarthol.
Diweddarwyd yr wybodaeth hon ddiwethaf ym mis Hydref 2016.
Datblygiad |
Buddsoddiad Arfaethedig |
Amcangyfrif o nifer y swyddi fydd yn cael eu creu yn ystod y cyfnod adeiladu |
Amcangyfrif o nifer y swyddi gweithredol |
Land & Lakes |
£200 miliwn |
400 |
600 |
Minesto |
£25 miliwn |
|
30 |
M-SParc |
£20 miliwn |
100 |
700 |
Orthios Eco Parks |
£1 biliwn |
800 - 1000 |
700 |
Wylfa Newydd |
£10 biliwn |
8000 - 10000 |
850 (+700 o brentisiaid cyn cychwyn cynhyrchu) |
Paratowyd yr wybodaeth hon ym mis Hydref 2016 a gall newid dros amser wrth i’r gwahanol brosiectau ddechrau ar wahanol gylchoedd bywyd.
Datblygiad |
Dyddiad y disgwylir i’r gwaith adeiladu ddechrau |
Dyddiad y disgwylir i’r safle fod yn weithredol |
Land & Lakes |
Diwedd 2017 (rhan o’r prosiect) |
2018 (rhan o’r prosiect) |
Minesto |
Ar y gweill |
Pencadlys Caergybi bellach ar agor |
M-SParc |
Mai 2016 |
Tachwedd 2017 |
Orthios Eco Parks |
2017 |
2018 |
Wylfa Newydd |
2019 |
Hanner cyntaf 2020au |