Fe roddir y term henebion i ystod eang o safleoedd archeolegol, yn amrywio o gestyll canoloesol i hen domenni claddu.
Cadw sy’n gyfrifol am nodi pa henebion all gael eu rhestru. Mae Cadw yn cael ei gyfarwyddo wrth iddo nodi safleoedd o’r fath gan feini prawf anstatudol y Cynulliad ar gyfer rhestru henebion. Caiff safleoedd hefyd eu nodi i’w hystyried gan gyrff eraill megis Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (RCAGMW), y pedwar Ymddiriedolaeth Archeolegol Cymreig rhanbarthol ac archeolegwyr awdurdodau lleol a’r parc cenedlaethol.
Bydd y perchennog a’r deiliaid yn cael rhybudd unwaith y bydd y broses o restru wedi ei chwblhau. Bydd y wybodaeth restru yn cynnwys disgrifiad o’r safle, ynghyd â map yn dangos ffin yr ardal a restrwyd.
Mae bron y cyfan o henebion a restrwyd yn safleoedd archeolegol, neu yn adfeilion neu’n adeiladau sydd heb fod a llawer o obaith y bydd defnydd economaidd iddynt. Dyma sy’n eu gwahaniaethu oddi wrth adeiladau rhestredig. Ni all adeilad gael ei restru fel heneb os yw’n cael ei ddefnyddio naill ai fel ty i fyw ynddo neu i bwrpasau eglwysig. Pan fo strwythurau yn rhai wedi eu rhestru ac yn rhai rhestredig bydd y broses restru yn cymryd blaenoriaeth dros ddeddfwriaeth adeilad rhestredig.
Nod y rhestru yw sicrhau cadwraeth tymor hir y safle. Rhaid i unrhyw gais i wneud gwaith ar heneb a restrwyd fyddai’n golygu dymchwel, dinistrio, difrodi, symud ymaith, trwsio, altro, ychwanegu at, llifogi, neu orchuddio heneb fod yn destun cais am ganiatâd heneb a restrwyd. Yn wir, rhaid i gais am ganiatâd heneb a restrwyd gael ei wneud am waith all fod o fudd i’r heneb, megis cryfhau gwaith cerrig, neu gwneud gwaith cloddio ar gyfer ymchwil.
Y mae’n drosedd gwneud gwaith o’r fath ar safle heneb a restrwyd heb yn gyntaf dderbyn caniatâd heneb a restrwyd. Ystyrir ceisiadau am ganiatâd heneb a restrwyd yn y goleuni hwn gyda thybiaeth yn erbyn cynigion fyddai’n achosi difrod i heneb, neu yn ei haltro’n sylweddol neu yn effeithio gosodiad yr heneb.
Os byddwch yn dymuno gwneud gwaith ar heneb a restrwyd byddwch angen derbyn caniatâd heneb a restrwyd. Nid yw caniatâd cynllunio ar ei ben ei hun yn ddigon i awdurdodi’r gwaith.
Mae caniatâd heneb a restrwyd yn cael ei weinyddu gan Cadw. Mae’n bwysig nodi na ellir rhoddi caniatâd ond ar gyfer cynigion manwl. Yn wahanol i ganiatâd cynllunio, nid oes darpariaeth ar gyfer rhoi caniatâd amlinellol.
Os byddwch angen gwybodaeth bellach ar henebion a restrwyd gallwch gysylltu â Cadw..