Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Concrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth (RAAC)


Diweddariadau

Oherwydd natur y sefyllfa a’r datblygiadau mewn perthynas â RAAC o fewn Ysgol David Hughes ac Ysgol Uwchradd Caergybi, byddwn yn cyhoeddi diweddariadau ar y tudalen yma.

Bydd Ysgol David Hughes ac Ysgol Uwchradd Caergybi yn parhau i gyfathrebu unrhyw ddatblygiadau gyda rhieni / gwarcheidwaid yn uniongyrchol.

Diweddariad: 22 Rhagfyr

  • Yn dilyn cwblhau gwaith adeiladau cynaliadwy, mae’r ysgol wedi cael mynediad llawn i lawr cyntaf bloc C a llawr canol y bloc newydd (ers 18 Rhagfyr).
  • O ganlyniad, gall yr adran gelf ddychwelyd i’w hystafelloedd dosbarth arferol, a gall athrawon mathemateg symud o’r brif neuadd a’r ystafell arholi i ystafelloedd dosbarth unigol yn bennaf (gyda dwy ystafell ddosbarth yn ‘Yr Harbwr’).
  • Bydd gwaith adferol yn dechrau yn bloc C ar ddechrau fis Ionawr.

Diweddariad: 27 Hydref

  • Bydd y llawr cyntaf ar gael yn fuan ar ôl y gwyliau hanner tymor; gan gynyddu capasiti’r adeilad.
  • Mae gwaith archwilio manwl wedi cadarnhau fod dyluniad y toeau yn caniatáu cynhaliaeth ddigonol i’r paneli RAAC.
  • Disgwylir canlyniadau archwiliad scan laser er mwyn adnabod unrhyw baneli unigol sydd angen gwaith adfer. Mae amserlen dychwelyd yr ail lawr yn ôl i ddefnydd yr ysgol yn ddibynnol ar niferoedd y paneli adnabyddir.

Diweddariad: 22 Medi

  • Mae’r gwaith o osod sgaffaldiau wedi dechrau ac fe ddylai hyn alluogi mynediad at ardal y chweched dosbarth erbyn Dydd Llun 25 Medi. Bydd hyn yn rhoi hwb sylweddol drwy ryddhau gofod ychwanegol a darparu mwy o gapasiti dysgu o fewn yr ysgol.
  • Mwy o wybodaeth yn y datganiad i'r wasg.

Diweddariad: 14 Medi

  • Bydd rhieni / gwarcheidwaid disgyblion Ysgol David Hughes yn derbyn taliadau prydau ysgol am ddim os yw eu plentyn / plant yn gymwys.
  • Bydd taliadau prydau ysgol am ddim ar gyfer y dyddiau nad oedd modd i blant fynychu adeiladau yr ysgol uchod (oherwydd y mater RAAC parhaus) yn cael eu prosesu erbyn diwedd yr wythnos hon.
  • Bydd y taliadau hyn yn cael eu talu’n uniongyrchol i gyfrif banc y rhiant / gwarcheidwad.
  • Os ydych yn rhiant / gwarcheidwad plentyn / plant sy’n mynychu’r ysgolion hyn ac sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim, ac nad ydych wedi derbyn y taliad erbyn dydd Mawrth 19 Medi, cysylltwch â’r Awdurdod drwy ffonio 01248 750 057 ac yna dewiswch opsiwn 3, wedyn opsiwn 1.

Darllenwch y datganiad i'r wasg am ragor o wybodaeth.

Diweddariad: 11 Medi

  • O Ddydd Mawrth 12 Medi ymlaen, bydd Ysgol David Hughes yn croesawu pob blwyddyn yn nol i adeilad yr ysgol.
  • Bydd rhai rhannau o'r adeilad yn parhau i fod allan o ddefnydd, a bydd rhai gwersi yn digwydd mewn lleoliadau eraill (fel y neuadd, ystafell arholiadau a'r llyfrgell).
  • Mae gwaith adferol yn parhau er mwyn galluogi mynediad i ardaloedd ychwanegol o fewn adeilad yr ysgol.

Lawrlwytho: Llythyr at rieni/gwarcheidwaid Ysgol David Hughes: 11 Medi 2023 [538KB | PDF]

Diweddariad: 8 Medi

Diweddariad gyda'r nos

  • Dydd Llun 11 Medi, bydd adeilad yr ysgol yn agor yn rhannol i Flynyddoedd 7, 8, 10, 11, 12 ac 13.
  • Darperir dysgu ar-lein i ddisgyblion Blwyddyn 9 (dydd Llun, Medi 11eg).
  • Ar hyn o bryd, nid yw'r ysgol yn gallu yn gallu cael yr holl ddisgyblion yn adeilad yr ysgol. Mae hyn yn golygu y bydd un flwyddyn yn cael gwersi ar-lein mewn cylchdro. Darperir rhagor o wybodaeth yr wythnos nesaf.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y llythyr a anfonwyd gan Ysgol David Hughes i ddiweddaru rhieni a gwarcheidwaid (llythyr a anfonwyd 8 Medi).

Diweddariad bore

Anfonwyd llythyr at rieni a gwarcheidwaid gan Ysgol David Hughes ar noson 7 Medi.

Lawrlwytho: Llythyr at rieni/gwarcheidwaid Ysgol David Hughes: 7 Medi 2023 [277KB | PDF]

Diweddariad: 7 Medi

  • Mae’r ysgol wedi yn ail-agor yn rhannol i ddisgyblion Blwyddyn 7, 11 a 12 heddiw (Dydd Iau, 7 Medi).
  • Mi fydd yr ysgol yn agor yn rhannol i ddisgyblion Blwyddyn 7, 8, 11 a 12 yfory (Dydd Gwener 8 Medi).
  • Bydd staff a disgyblion yn cael eu hadleoli i ardaloedd yn yr ysgol sydd ddim wedi’u heffeithio gan RAAC.
  • Mae gwaith adferol ychwanegol yn cael ei wneud gyda'r gobaith o sicrhau bod rhagor o ddisgyblion yn gallu dychwelyd i'r ysgol yn ddiogel, a chyn gynted â phosibl.

Lawrlwytho: Llythyr at rieni/gwarcheidwaid Ysgol David Hughes: 6 Medi 2023 [600KB | PDF]

Diweddariad: 5 Medi

  • Bydd yr ysgol yn ail-agor yn rhannol i ddisgyblion Blwyddyn 7, 11 a 12 ar Ddydd Iau 7 Medi.
  • Bydd staff a disgyblion yn cael eu hadleoli i ardaloedd yn yr ysgol sydd ddim wedi’u heffeithio gan RAAC.
  • Mae gwaith adferol ychwanegol yn cael ei wneud gyda'r gobaith o sicrhau bod rhagor o ddisgyblion yn gallu dychwelyd i'r ysgol yn ddiogel, a chyn gynted â phosibl.

Mae rhieni a gwarcheidwaid Ysgol David Hughes wedi cael gwybod am y datblygiadau hyn. Bydd yr ysgolion yn parhau i’w diweddaru yn rheolaidd.

Diweddariad: 4 Medi

Yn dilyn trafodaethau brys gyda Llywodraeth Cymru a gan gymryd ystyriaeth lawn o’r cyngor a ddarparwyd i sefydliadau addysgol yn Lloegr gan lywodraeth y DU, mae wedi’i gytuno y dylid cau Ysgol David Hughes dros dro er mwyn i archwiliadau diogelwch pellach gael eu cynnal ac er mwyn i gynlluniau amgen allu cael eu gwneud.

Diweddariad: 10 Ionawr

  • Croesawyd Ysgol Uwchradd Caergybiholl ddisgyblion yn ôl i adeilad yr ysgol ar ddydd Mercher, 10 Ionawr.
  • Croesawyd yr holl ddisgyblion yn ôl i’r adeilad yn dilyn gwaith trwsio sylweddol yn y blociau addysgu A ac C, y ffreutur a mannau allweddol eraill.
  • Mwy o wybodaeth yn datganiad i’r wasg.

Diweddariad: 22 Rhagfyr

  • Mae gwaith ar yr amrywiaeth o adeiladau bloc yn datblygu’n dda.
  • Bydd modd symud dodrefn yn ôl i flociau addysgu A a C ar Ionawr 5 a 6.
  • Bydd yr ysgol ar gau i ddisgyblion ar 8 a 9 Ionawr er mwyn galluogi athrawon i symud yn ôl i’w hystafelloedd dosbarth, ac i alluogi staff swyddfa i symud eu gweithfannau.
  • Bydd yr holl ddisgyblion yn dychwelyd i’r ysgol ar 10 Ionawr.
  • Mae gwaith adferol i’r caffeteria bron â dod i ben, a bydd hyn yn caniatáu mynediad llawn.
  • Ar hyn o bryd, mae’r dderbynfa wedi’i lleoli yng nghefn adeilad yr ysgol (mae’r brif fynedfa yn dal ar gau).

Diweddariad: 27 Hydref

  • Mae gwaith ar y gwahanol flociau yn mynd rhagddo. Unwaith y bydd y gwaith wedi’i gwblhau bydd mwy o gyfleoedd i gynnal gwersi wyneb yn wyneb.
  • Mae’r gwaith adfer yn y ffreutur bron â’i gwblhau a bydd ar gael i bawb wedi hynny.
  • Mae’r gwaith yn y campfeydd yn mynd rhagddo.

Diweddariad: 22 Medi

  • Mae disgwyl i waith adfer y ffreutur gychwyn Dydd Llun 25 Medi a dylai gymryd oddeutu tair wythnos. Ar ôl ei gwblhau, bydd hyn yn galluogi mynediad llawn i’r ffreutur.
  • O ddydd Llun 25 Medi, mae’r ysgol yn cynyddu'r mynediad at addysgu wyneb yn wyneb fesul un grŵp blwyddyn y dydd. Bydd dysgu ar-lein yn parhau i gael ei ddarparu i’r grwpiau blwyddyn sydd ddim yn adeilad yr ysgol yn ystod yr wythnos.
  • Mwy o wybodaeth yn datganiad i’r wasg.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y llythyr a anfonwyd gan Ysgol Uwchradd Caergybi i ddiweddaru rhieni a gwarcheidwaid (llythyr a anfonwyd 21 Medi).

Diweddariad: 14 Medi

  • Bydd rhieni / gwarcheidwaid disgyblion Ysgol Uwchradd Caergybi yn derbyn taliadau prydau ysgol am ddim os yw eu plentyn / plant yn gymwys.
  • Bydd taliadau prydau ysgol am ddim ar gyfer y dyddiau nad oedd modd i blant fynychu adeiladau yr ysgol uchod (oherwydd y mater RAAC parhaus) yn cael eu prosesu erbyn diwedd yr wythnos hon.
  • Bydd y taliadau hyn yn cael eu talu’n uniongyrchol i gyfrif banc y rhiant / gwarcheidwad.
  • Os ydych yn rhiant / gwarcheidwad plentyn / plant sy’n mynychu’r ysgolion hyn ac sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim, ac nad ydych wedi derbyn y taliad erbyn dydd Mawrth 19 Medi, cysylltwch â’r Awdurdod drwy ffonio 01248 750 057 ac yna dewiswch opsiwn 3, wedyn opsiwn 1.

Darllenwch y datganiad i'r wasg am ragor o wybodaeth.

Diweddariad: 8 Medi

  • O ddydd Llun 11 Medi, bydd adeilad yr ysgol yn ail-agor yn rhannol i hyd at ddau grŵp blwyddyn ar y tro.
  • Yn ogystal, bydd adeilad yr ysgol yn ail-agor yn rhannol i flynyddoedd 12 a 13 ar gyfer gwersi unigol (o ddydd Llun 11 Medi).
  • Mae gwaith adferol ychwanegol yn cael ei wneud gyda'r gobaith o sicrhau bod rhagor o ddisgyblion yn gallu dychwelyd i'r ysgol yn ddiogel, a chyn gynted â phosibl.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y llythyr a anfonwyd gan Ysgol Uwchradd Caergybi i ddiweddaru rhieni a gwarcheidwaid (llythyr a anfonwyd 8 Medi).

Diweddariad: 5 Medi

  • Bydd pob disgybl yn cael eu cyflwyno i addysg drwy wersi ar-lein (o Ddydd Iau 7 Medi).
  • Ni fydd disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol yr wythnos hon.
  • Y gobaith yw y bydd rhai disgyblion yn gallu dychwelyd i’r ysgol yr wythnos nesaf ar ôl cynnal arolygiadau arbenigol pellach.

Mae rhieni a gwarcheidwaid Ysgol Uwchradd Caergybi wedi cael gwybod am y datblygiadau hyn. Bydd yr ysgolion yn parhau i’w diweddaru yn rheolaidd.

Diweddariad: 4 Medi

Yn dilyn trafodaethau brys gyda Llywodraeth Cymru a gan gymryd ystyriaeth lawn o’r cyngor a ddarparwyd i sefydliadau addysgol yn Lloegr gan lywodraeth y DU, mae wedi’i gytuno y dylid cau Ysgol Uwchradd Caergybi dros dro er mwyn i archwiliadau diogelwch pellach gael eu cynnal ac er mwyn i gynlluniau amgen allu cael eu gwneud.

Cefndir

Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn ymwybodol o’r defnydd cenedlaethol o goncrid RAAC (‘reinforced autoclaved aerated concrete’) o fewn adeiladau cyhoeddus.

Mae’r concrid RAAC hwn yn fath ysgafn o goncrid a ddefnyddiwyd yn y sector adeiladu er mwyn adeiladu ysgolion, colegau ac adeiladau eraill rhwng y 1950au tan ganol y 1990au.

Archwiliadau

Hysbyswyd y cyngor sir am y materion posibl a allai godi gyda concrid RAAC ers i’r mater gael ei godi drwy’r Gymdeithas Lywodraeth Leol yn 2019/20.

O ganlyniad, mae adeiladau sydd wedi eu heffeithio gan RAAC wedi derbyn archwiliadau arbenigol blynyddol gan syrfewyr allanol. Mae’r holl archwiliadau wedi dod i’r casgliad nad oedd unrhyw risgiau na phryderon uniongyrchol.

RAAC mewn ysgolion

The presence of RAAC has been confirmed in two local authority maintained secondary schools: Ysgol David Hughes and Ysgol Uwchradd Caergybi.