Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Sut i ymuno â'r llyfrgell


Mae aelodaeth yn rhad ac am ddim.

Ewch i'ch llyfrgell leol gydag un math o brawf adnabod, sy'n cynnwys eich cyfeiriad e.e. trwydded yrru neu fil cyfleustodau.

Er mwyn dechrau benthyg eitemau o’ch llyfrgell leol, y cyfan sydd ei angen arnoch yw cerdyn llyfrgell cyfredol. Gallwch ddefnyddio’ch cerdyn mewn unrhyw lyfrgell gyhoeddus ym Môn a hefyd yn llyfrgelloedd cyhoeddus Conwy a Gwynedd. Ni ellir benthyg unrhyw eitem heb gerdyn llyfrgell cyfredol.

Gallwch hefyd ymuno ar-lein trwy lenwi ein ffurflen gofrestru.

Bydd eich cerdyn llyfrgell yn cael ei yrru atoch drwy’r post a bydd rhaid ichi ei ddangos ynghyd ag un eitem sy’n cynnwys eich cyfeiriad pan fyddwch yn ymweld â’r llyfrgell am y tro cyntaf ar ôl ymaelodi.

Os yn ymaelodi plentyn neu berson ifanc dan 18 ar lein bydd ffurflen ychwanegol yn cael ei gyrru atoch er mwyn cael llofnod rhiant neu warchodwr. Bydd rhaid cyflwyno’r ffurflen hon yn ogystal a’r cerdyn pan yn ymweld â’r llyfrgell am y tro cyntaf.

Eich llyfrgell leol

Amlwch

Biwmares

Benllech

Caergybi

Llangefni

Porthaethwy

Rhosneigr

Cyfrif llyfrgell ar-lein

Gallwch reoli eich cyfrif llyfrgell eich hun ar-lein drwy ein catalog llyfrgell.

  • Bydd angen eich rhif PIN i fewngofnodi i'ch cyfrif i wirio eich benthyciadau, adnewyddu eich eitemau, neu i ofyn am eitem benodol.
  • Byddwch yn cael eich rhif PIN pan fyddwch yn ymuno â'r llyfrgell.

Anghofio eich PIN?

Os ydych eisoes yn aelod o'r llyfrgell, a’ch cyfeiriad ebost wedi ei gofrestru ar eich cyfrif, gallwch ddefnyddio adnodd ’Anghofio PIN’ ar y catalog llyfrgell.

Unwaith y byddwch wedi dod yn aelod, gallwch

  • fenthyg hyd at 10 llyfr ar y tro am gyfnod o 3 wythnos
  • benthyg DVDs, CDs neu fideos am wythnos, am bris rhesymol am wythnos ar y tro
  • defnyddio cyfrifiaduron y llyfrgell yn rhad ac am ddim
  • lawrlwytho e-lyfrau, llyfrau llafar a chylchgronau yn rhad ac am ddim
  • defnyddio adnoddau’r llyfrgell ar-lein yn rhad ac am ddim

Mae’n bosib trefnu benthyciad ymestynnol mewn amgylchiadau arbennig, ee os byddwch yn mynd ar wyliau neu’n mynd i mewn i’r ysbyty. Gallwn hefyd  drefnu  benthyciadau tymor hir ar gyfer myfyrwyr.

Gall ysgolion, meithrinfeydd a chylchoedd chwarae ayyb drefnu i fenthyg nifer sylweddol o lyfrau ac adnoddau eraill ar fenthyciad tymor hir.

Dychwelyd eitemau

Gallwch ddychwelyd eich eitemau i unrhyw un o lyfrgelloedd cyhoeddus Môn. Os ydych yn dychwelyd eich llyfrau neu eitemau eraill yn hwyr, bydd rhaid i chi dalu dirwy ar gyfer pob diwrnod mae pob eitem unigol yn hwyr.