Ym mis Mai 2021 comisiynwyd Arc4 i gynorthwyo Cynghorau Gwynedd a Môn i baratoi Asesiad Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr. Cyhoeddwyd canlyniadau'r asesiad yn Asesiad Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr Môn a Gwynedd 2022 (GTAA).
Mae GTAA 2022 wedi nodi'r anghenion canlynol ar gyfer Ynys Môn:
- Dau safle cludo i'w defnyddio fel mannau aros dros dro i Sipsiwn a Theithwyr ar hyd yr A55, un yn ganolog ac un yng Nghaergybi.
Gall anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr newid yn ystod y cylch asesu, gyda gwybodaeth yn cael ei chasglu o fewn cyfrif carafanau Sipsiwn a Theithwyr Llywodraeth Cymru.