Neidio i'r prif gynnwys

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Neuadd y Farchnad, Caergybi


Ymweld â Neuadd y Farchnad 

Mae Neuadd y Farchnad wedi’i lleoli wrth galon tref Caergybi, ger Sgwâr Trearddur, a cheir cysylltiadau gwych â thrafnidiaeth gyhoeddus gan fod prif safle bws y dref ger y brif fynedfa ac mae’r orsaf drenau oddeutu 5 munud ar droed.

Yn ardal y dderbynfa, ceir raciau er mwyn cadw beiciau. Mae’r adeilad wedi’i leoli oddi ar ‘stryd far’ lle ceir cysylltiad i gerddwyr drwy Stryd Stanley.

Mae’r adeilad hefyd dafliad carreg o nifer o feysydd parcio talu ac arddangos, a cheir rhagor o wybodaeth ynghylch y rhain yn y cynllun teithio sydd ar gael trwy e-bostio neuaddyfarchnad@ynysmon.llyw.cymru

Golygfa o du blaen ac ochr addurnol Neuadd y Farchnad, Caergybi, ar hyd Summer Hill, gyda chyrn simnai nodedig a heulwen braf y bore.
Golygfa o du blaen Neuadd y Farchnad, Caergybi ar ôl ei adnewyddu, yn dangos nodweddion addurniadol allweddol gan gynnwys y talcenni Iseldiraidd ysgubol gyda therfyniadau pigog.
Golygfa gefn o Neuadd y Farchnad, Caergybi ar hyd Sgwâr Trearddur, yn dangos y talcenni triphlyg heb eu haddurno a ffenestri oriel gwydrog lefel uchel.
Giât haearn werdd addurniadol o flaen Neuadd y Farchnad, gyda bwa carreg wedi'i osod â charreg allwedd nodedig.

Ystafelloedd cyfarfod

Ceir dwy ystafell gyfarfod sylweddol eu maint yn Neuadd y Farchnad a gellir eu llogi am resymau busnes, addysgol a chymdeithasol gwahanol, un ai fesul awr, am hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn.

Ymhlith y cyfleusterau mae sgrin 50 modfedd symudol gyda chysylltiad HDMI, WiFi cyhoeddus am ddim, bleindiau atal golau a bwrdd gwyn symudol gyda siart droi.

Mae Ystafelloedd Thomas ac Edwards yn cynnwys nodweddion gwreiddiol ac mae modd llogi’r ystafelloedd ar gyfer hyfforddiant, cyfarfodydd mawr, arddangosfeydd, cyfweliadau a chyfarfodydd un i un drwy drefniadau archebu hyblyg yn ôl yr amseroedd sydd ar gael, gan gynnwys gyda’r nos ac ar benwythnosau.

Mae’r ddwy ystafell yn hygyrch. Mae’r ardal fforwm hefyd ar gael ar gyfer arddangosfeydd ac amrywiaeth o ddigwyddiadau cymunedol. Gellir gwneud ymholiadau drwy anfon neges e-bost at neuaddyfarchnad@ynysmon.llyw.cymru

Grŵp o bump o fyfyrwyr prifysgol a dau ddarlithydd yn trafod o amgylch bwrdd gyda sgrin ddigidol fawr yn y cefndir.
Ystafell gyfarfod wag yn cynnwys grwpiau o 3 bwrdd ar ffurf arddull bwrdd, sgrin ddigidol fawr a bwrdd gwyn yn y cefndir.
Cyfarfod gydag 17 oedolyn yn eistedd ger bwrdd mawr ar ffurf ystafell bwrdd.

Gweithgareddau

Ers ail agor Neuadd y Farchnad, mae wedi cynnal amrywiaeth o weithgareddau sy’n addas ar gyfer bob oed o fewn y gymuned. Mae’r digwyddiadau hyn hefyd wedi bod yn gyfle i gael blas ar y sgiliau adeiladu treftadaeth a welir yn yr adeilad, megis gwaith maen, naddu llechi a sgiliau traddodiadol megis gwehyddu basgedi.

Mae corau lleol wedi perfformio ar gyfer ymwelwyr yn Neuadd y Farchnad, ac mae delweddau hanesyddol a dogfennau archifol wedi cael eu rhannu yn ystod y digwyddiadau hyn. Cynhaliwyd amrywiaeth eang o weithgareddau ar gyfer plant a theuluoedd gan gynnwys sesiynau Treftadaeth Lego, crefftau sy’n ymwneud â dathliadau tymhorol, a sesiynau chwarae ar gyfer Rhieni a Babanod sy’n ymwneud â hanes.

Cynhelir digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn, felly cadwch lygad ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau.  

Disgybl ysgol yn gwisgo helmed galed wen ac yn dal morthwyl, yn sefyll ger hysbyseb naid ac yn derbyn cyfarwyddyd gan döwr sy’n gwisgo helmed galed, ynghylch sut i osod llechen ar do.
Grŵp o blant ac oedolion yn gwylio disgybl ysgol, sy’n gwisgo helmed galed ag sbectolau diogelwch, yn naddu carreg dan oruchwyliaeth saer maen.
Pobl yn eistedd yn ardal y Fforwm yn gwylio perfformiad gan Gôr Meibion Caergybi.
Tri ymwelydd yn darllen paneli gwybodaeth treftadaeth ynghylch Neuadd y Farchnad gyda giât hanesyddol addurnol yn y cefndir.
Bwrdd arddangos mawr yn cynnwys gwybodaeth am ymweliad y Teulu Brenhinol i Gaergybi, gan gynnwys amrywiaeth o destun a lluniau. Llun hanesyddol o du mewn Neuadd y Farchnad yn y blaendir.
Golygfa yn edrych lawr i’r ardal Fforwm, lle mae grwp o oedolion a phlant yn adeiladu modelau Lego ar fyrddau ar wahân.
Ardal y Fforwm wedi’i baratoi ar gyfer gweithdy gwehyddu helygen, yn cynnwys carw maint go iawn wedi’i wneud o helygen yn y cefndir.
Y goeden Nadolig gymunedol yn Neuadd y Farchnad wedi’i gorchuddio ag addurniadau wedi’u paentio gan fusnesau lleol a logo noddwr y prosiect.
Cymdeithas Gorawl Ynys Môn yn perfformio Carolau Nadolig i grŵp o bobl yn ardal fforwm agored Neuadd y Farchnad.
Model Lego o ddrychiad blaen Neuadd y Farchnad yn manylu ar elfennau pensaernïol allweddol megis talcenni Iseldireg ysgubol a mynedfeydd bwaog nodedig.

Cefndir y prosiect

Roedd Neuadd y Farchnad, Caergybi, wedi bod yn gragen wag am oddeutu 15 mlynedd, wedi’i esgeuluso ac yn dirywio’n gyflym, gan danseilio hyfywedd a gweithgareddau adfywio yng nghanol y dref.

Mae’r adeilad, sydd bellach wedi’i atgyweirio ac yn cael ei ddefnyddio, yn gwneud cyfraniad cadarnhaol a sylweddol i adfywiad y dref, gyda’r weledigaeth sydd wedi bod yn sylfaen i’w adnewyddu, er mwyn trawsnewid adeilad hanesyddol gwag sy’n cael ei edmygu’n fawr yn hwb ar gyfer bwyd cymunedol unwaith eto. 

Fe’i hagorwyd ym 1855 ac roedd dan awenau preifat hyd at 2015. Yna, defnyddiodd y Cyngor ei bwerau statudol drwy ddosbarthu rhybudd gwaith brys, ac yna hysbysiad atgyweirio, gan feddiannu’r adeilad yn y pen draw drwy bryniant gorfodol a cheisio gweithredu gweledigaeth adfywio er mwyn creu dyfodol cynaliadwy ar gyfer yr adeilad.  

Cyn i'r cyngor gymryd perchnogaeth, golygfa flaen o Neuadd y Farchnad cyn ei adnewyddu, mewn cyflwr gwael heb unrhyw wydr yn y ffenestri, giatiau haearn rhydlyd a llystyfiant yn tyfu yn y tu blaen.
Golygfa o ochr Neuadd y Farchnad cyn y gwaith adnewyddu, yn dangos y stondinau simnai wedi'u cwtogi a'r tyfiant trwm oedd yn amgylchynu'r adeilad.
Tu fewn i Neuadd y Farchnad yn wag cyn ei atgyweirio, yn dangos tyllau yn y to a cholofnau mewn lliwiau gwyrdd a glas coegwych.
Tu mewn i Neuadd y Farchnad cyn adnewyddu yn canolbwyntio ar dair colofn yn cynnal strwythur y to pren, gyda chwyn a mwsogl yn y gwaelod a gwter pren yn pydru.
O’r llawr cyntaf, gan edrych i fyny drwy’r to stripio at y trawstiau to wedi’u golchi â chalch, yn ystod y gwaith adnewyddu, gydag awyr las yn y cefndir.

Cyfraniadau ariannu

Roedd cyllid grant ar gael drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol (£2.375m), rhaglen Leoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru ar gyfer y camau cyntaf (£708,000), ERDF (£818,000), Cyngor Sir Ynys Môn (£200,000) ac Is Adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru (£152,000), sydd wedi arwain at ddarparu cyfanswm gwerth £4.253m ar gyfer adfywio’r adeilad yn hwb gwybodaeth, busnes a chymunedol modern.

Mae Neuadd y Farchnad, sy’n adeilad rhestredig Gradd II, yn ased corfforaethol a reolir gan Wasanaeth Eiddo Corfforaethol y Cyngor. Ei brif ddefnydd yw llyfrgell gyhoeddus, ac ar ôl ei adleoli, mae wedi cefnogi’r gwaith o ddatblygu gwasanaethau ar gyfer trigolion, megis darpariaeth TG i feithrin sgiliau a dysgu, dehongliadau hanesyddol a gwasanaethu gwybodaeth ar gyfer y gymuned a thwristiaid. 

Logos o'r chwith i'r dde: Cronfa Treftadaeth, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ynys Môn

Hygyrchedd

Mae dyluniad cynhwysol wedi’i ystyried fel rhan annatod o ddyluniad cyffredinol yr adeilad o’r camau dichonoldeb. Er mwyn sicrhau bod cynwysoldeb wedi’i gynnwys yn y broses ddylunio, roedd rhaid cynnwys Ymgynghorwyr Mynediad a defnyddwyr lleol yn y broses er mwyn darparu cyngor arbenigol a phrofiadau lleol ynghylch materion mynediad i’r anabl, yn enwedig mewn perthynas â’r amgylchedd hanesyddol. 

Cyn buddsoddi yn y prosiect, roedd mynediad yn her yn yr adeilad oherwydd amrywiadau yn lefel y llawr gwaelod ac roedd mynediad grisiau’n gyfyngedig i’r llawr uchaf; roedd y prosiect yn mynd i’r afael â’r heriau hyn er mwyn sicrhau adeilad hygyrch cyflawn. Mae hyn yn enwedig o bwysig mewn adeilad cyhoeddus fydd yn cael ei ddefnyddio gan holl aelodau’r gymuned. 

Er gwaethaf yr heriau o weithio mewn adeilad hanesyddol, mae Neuadd y Farchnad yn hygyrch ym mhob ardal oherwydd y mesurau canlynol: 

  • Mynedfeydd â rampiau yn nhu blaen ac yng nghefn yr adeilad
  • Ramp mewnol rhwng ardal y dderbynfa a’r brif Lyfrgell
  • Lifft llwyfan rhwng ardaloedd ar y llawr cyntaf
  • Lifft rhwng pedwar lefel yr adeilad
  • Toiled hygyrch Newid Lleoedd
  • Dolen sain yn y dderbynfa
  • Deunyddiau cyferbyniol ar y llawr a ger drysau er mwyn cynorthwyo pobl â nam golwg
  • Parcio i’r anabl yn y maes parcio yng nghefn yr adeilad
Mae’r haul yn disgleirio ar brif fynedfa Neuadd y Farchnad, ac mae rampiau a chanllawiau yn y fynedfa.
Drysau toiled oren yn dangos ffeithluniau neillryw, defnyddwyr cadeiriau olwyn, ystafell newid babanod a chyfleuster newid.
Mynedfa yng nghefn Neuadd y Farchnad gyda ramp a chanllaw.
Tu fewn Neuadd y Farchnad gyda ramp pren ar y llawr a chanllawiau atodol yn erbyn y balwstrad gwydr.
Tu fewn Neuadd y Farchnad yn arwain at ddrysau’r lifft a’r grisiau sy’n arwain at ardal fenthyca’r llyfrgell.

Cynaliadwyedd amgylcheddol a newid hinsawdd 

Mae’r cyfleuster datblygol wedi ceisio cyfrannu at fynd i’r afael â newid hinsawdd, sydd wedi bod yn allweddol o ran defnyddio’r adeilad unwaith eto.

Mae’r adeilad ar ei newydd wedd wedi ymgorffori mesurau sy’n lleihau’r defnydd o ynni drwy osod inswleiddio mewn muriau, yn y to ac yn y llawr. Mae mortar calch wedi’i ddefnyddio drwy’r adeilad fel amsugnwr C02, a bydd hefyd yn sicrhau bod yr adeilad yn sych, gan alluogir inswleiddio i berfformio’n well. Ychwanegwyd systemau ffotofoltäig i’r toi sy’n wynebu’r de fydd yn sicrhau bod y cyfleuster yn cynhyrchu ynni cynaliadwy ar y safle, a lleihau’r angen am ynni carbon o’r prif gyflenwad. 

Mae’r dyluniad hefyd wedi sicrhau bod yr adeilad newydd yn wydn er mwyn ymdopi ag effeithiau newid hinsawdd yn y dyfodol. Bydd mesurau ymarferol, megis gwella gorgyffyrddiad llechi’r to, yn sicrhau bod yr adeilad yn gwrthsefyll gwynt a dŵr treiddiol yn ystod stormydd y gaeaf, ac mae lled nwyddau dŵr glaw a phibellau dŵr wedi’u gwella er mwyn ymdopi â glaw trwm. 

Ymhlith y mesurau eraill sydd wedi’u mabwysiadu mae: 

  • agwedd ffabrig yn gyntaf ar gyfer y gwelliannau thermol yn yr adeilad
  • solar thermol i helpu’r gwresogyddion tanddaearol
  • solar PV i gynhyrchu pŵer
  • swyriad goddefol ac actif – wedi’i reoli gan lleithder
  • proses ac olrhain BREEAM

Mae’r prosiect yn enghraifft o integreiddio systemau goddefol rhagweithiol, sy’n bwysig yng Nghymru, ar gyfer adeiladau a adeiladwyd cyn 1919 yn y DU. 

Edrychiad to llechi sy'n wynebu'r de yn Neuadd y Farchnad gyda 9 panel solar ynghlwm a dwy simnai frics wedi'u haddurno gyda photiau simnai melyn yn y blaendir.
Golygfa o ochr Neuadd y Farchnad yn dangos y nwyddau dŵr glaw, gyda landeri dyfnach a 3 pibell dŵr i ddelio â glaw trwm yn y dyfodol.
Tu mewn i Neuadd y Farchnad wedi'i oleuo'n naturiol gan olau drwy ffenestri to gwydrog yn y bae canolog uwchben ardal y fforwm a gofod y Llyfrgell ar y llawr gwaelod .