Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Telerau ac amodau


Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth ar y wefan hon yn gywir ac yn gyfamserol. Er hynny, ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled neu anhwylustod a achosir oherwydd dibynnu ar ddeunydd anghywir a geir ar y wefan hon neu ar unrhyw wefan a chysylltir drwy’r wefan hon.

Rhoddir cysylltiadau â gwefannau eraill er hwylustod i chi ac nid yw hyn yn golygu bod yn eu cymeradwyo. Nid yw Cyngor Sir Ynys Môn yn gwarantu nac yn gwneud sylwadau nac yn cefnogi unrhyw wefannau cysylltiedig na’r wybodaeth sy’n ymddangos arnynt na’r cynnyrch neu’r gwasanaethau a ddisgrifir arnynt.

Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am ddigwyddiadau yr ydym yn eu hysbysebu ar ein gwefan sydd heb eu trefnu gan Gyngor Sir Ynys Môn. Mae Cyngor yn cadw’r hawl i wneud newidiadau heb rybudd. 

Hawlfraint

Cyngor Sir Ynys Môn neu partïon eraill sy’n dal yr hawlfraint ar yr holl ddeunydd ar y wefan hon (gan gynnwys y testun a’r delweddau), oni nodir fel arall. 

Diogelir y tudalennau hyn gan hawlfraint, oni ddatganir i’r gwrthwyneb. Ni chaniateir atgynhyrchu’r deunydd hwn mewn unrhyw ffordd heb ganiatâd ysgrifenedig Cyngor Sir Ynys Môn. Mae cyfraith Cymru a Lloegr yn gymwys i gynnwys y wefan hon. Mae’n bosibl bod hawliau eiddo deallusol mewn rhai o’r deunyddiau yn cael eu dal gan awduron unigol. Ni ellir defnyddio logo’r Cyngor mewn unrhyw ffordd heb ganiatâd ysgrifenedig.

Nid oes gennych yr hawl i ddefnyddio unrhyw gynnwys neu farc/logo ar eich gwefan, blog neu unrhyw wasanaeth arall ond fel y darperir ar y safle we hon.

Data mapio

©  Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata 2022 Arolwg Ordnans 100023412.

Rhoddir trwydded ddirymiadwy, anghyfyngedig a heb freindal i chi i weld y datatrwyddedig at ddibenion anfasnachol am y cyfnod y mae ar gael gan Cyngor Sir Ynys Môn.

Ni chewch gopïo, is-drwyddedu, dosbarthu na gwerthu unrhyw ran o’r data hwn idrydydd partïon mewn unrhyw ffurf.

Yr Arolwg Ordnans fydd yn cadw’r hawlio trydydd parti iorfodi amodau’r drwydded hon.

Firysau

Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn gwneud pob ymdrech i feirws-wirio gwybodaeth sydd ar gael i’w dadlwytho ar y wefan hon. Ni all Cyngor dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled neu ddifrod a allai ddigwydd wrth ddadlwytho deunydd. Argymhellwn fod defnyddwyr yn ailwirio’r holl ddeunydd a ddadlwythir gyda’u meddalwedd gwirio firysau eu hunain.

Ymwadiadau mapio 

Ni ddylech ddibynnu ar y wybodaeth ar y wefan yn unig am hanes cynllunio llawn a chynhwysfawr ar gyfer unrhyw eiddo. Oherwydd natur y gronfa ddata o gyfeiriadau - mewn rhai achosion ni fydd yr holl hanes cynllunio yn dangos.

Nid yw’r wybodaeth gynllunio a ddarperir yn hanes cynllunio llawn ar gyfer unrhyw safle. Ni ddylid ei weld fel dewis arall yn lle’r wybodaeth a ddarperir trwy Chwiliad Pridiant Tir Lleol ffurfiol. Nid yw’r wybodaeth yn hysbysiad ffurfiol o unrhyw benderfyniad cynllunio.

Er ein bod yn ceisio sicrhau cywirdeb a dibynadwyedd y wybodaeth a ddarperir, nid ydym yn gwarantu nac yn rhoi sicrwydd o gywirdeb, cyflawnrwydd neu addasrwydd y wybodaeth ar gyfer unrhyw bwrpas. Nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled neu ddifrod yn sgil defnyddio neu ddibynnu ar y wybodaeth a ddarperir ar y wefan hon nac am anghywirdeb neu anghyflawnrwydd gwybodaeth.

Er bod y Cyngor wedi cymryd camau rhesymol i sicrhau bod y wybodaeth ar ein Map Rhyngweithiol yn gywir, mae’n bosib y bydd camgymeriadau yn y wybodaeth, neu bod y wybodaeth yn anghyflawn neu wedi dyddio. Felly, nid ydym yn rhoi sicrwydd, gwarant nac addewid (diamwys neu oblygedig) bod y wybodaeth yn gywir, yn gyflawn ac yn gyfredol. Darperir y cynnwys ar ein Map Rhyngweithiol er gwybodaeth gyffredinol yn unig.

Ni fwriedir iddo fod yn gyngor y dylech ddibynnu arno. Felly, rydym yn gwrthod pob atebolrwydd a chyfrifoldeb sy’n deillio o’r ffaith eich bod chi neu rywun arall wedi dibynnu ar gynnwys gwybodaeth o’r fath, a dylech gael cyngor proffesiynol neu arbenigol cyn cymryd unrhyw gamau ar sail y cynnwys ar ein Map Rhyngweithiol.

Sylwer os gwelwch yn dda na fydd ceisiadau cynllunio hanesyddol efallai ond yn cynnwys cyfeirnod ac nad yw’r disgrifiadau ond ar gael yn y Saesneg.

Adborth

Os gwelwch unrhyw wybodaeth ar ein tudalennau gwe y credwch ei bod yn anghywir neu'n anaddas, rhowch wybod i ni drwy ffurflen adborth isod.

Newid 

Gall Cyngor Sir Ynys Môn newid y Telerau hyn ar unrhyw adeg drwy ddiweddaru'r hysbysiad hwn.