Bin gwyrdd, bin bach gwastraff bwyd, bocsys ailgylchu a throli
Defnyddiwch ein ffurflen ddiogel i archebu bin gwyrdd, bin bach gwastraff bwyd, bocsys ailgylchu, ffram neu ddarnau i’r set trolibocs sydd wedi eu colli/difrodi. Os nad ydych wedi gwneud yn barod, bydd angen i chi gofrestru er mwyn creu cyfrif hunan wasanaeth personol a diogel. Bydd yn arbed amser ac yn helpu i gadw trefn ar eich ceisiadau am wasanaeth.
Gofyn am bin gwyrdd, bin bach gwastraff bwyd, bocsys ailgylchu a throli
Bin du
Nodwch os gwelwch yn dda, mae’r Cyngor yn codi tâl o £34 (yn cynnwys taw) am fin du ar olwynion newydd, un sydd wedi ei ddifrodi, wedi mynd ar goll, ei ddwyn neu angen ei gyfnewid.
Mae angen talu am y bin du ar olwynion ymlaen llaw drwy ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd.
Gallwch wneud hyn drwy ffonio’r Adain Rheoli Gwastraff ar (01248) 750057.
Sut mae cofrestru ar y porth ar-lein?
Bydd angen i chi ddefnyddio cyfeiriad e-bost i greu cyfrif diogel i gofrestru gyda Fy Nghyfrif. Bydd angen i chi hefyd gytuno gyda’n telerau ac amodau, sy’n rhoi caniatâd i ddal a defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn unol â’n polisïau preifatrwydd a diogelu data.
Nodyn pwysig: Wrth gofrestru i ddefnyddio’r porth am y tro cyntaf, gofynnir i chi fynd i’ch cyfrif e-bost, agor yr e-bost y byddwn ni wedi’i anfon atoch chi a chlicio ar y ddolen i actifadu’ch cyfrif. Ni fyddwch yn gallu mewngofnodi i borth Fy Nghyfrif neu ddefnyddio’r ffurflenni heb actifadu’ch cyfrif o’r ddolen yn yr e-bost. Os nad ydych chi’n meddwl eich bod wedi derbyn e-bost, edrychwch yn eich ffolder Spam. Gallwn wirio a gweithredu’r cyfrif os oes angen, rhowch wybod i ni os yw hyn yn rhywbeth yr ydych am i ni ei wneud.