Bydd deiliaid tai yn cael archebu ymweliad ar-lein drwy ‘Fy Nghyfrif’ ar y wefan.
Rhaid bod gennych gyfrif eisoes neu bydd angen i chi greu cyfrif newydd er mwyn archebu ar-lein. Ceir arweiniad ar sut i gofrestru - cofrestrwch gyda ‘Fy Nghyfrif’.
Os ydych eisoes wedi cofrestru gyda ‘Fy Nghyfrif’, defnyddiwch y ddolen isod. Sylwch: nid yw'r ffurflen archebu ar gael ar AppMÔN.
Mae canllawiau manwl ar sut i lenwi'r ffurflen ar gael.
Pwysig: os ydych yn defnyddio ffôn symudol neu dabled, (nid AppMÔN), i ddefnyddio porth 'Fy Nghyfrif' yna gwnewch yn siŵr eich bod yn sgrolio i'r dde ar waelod pob ffurflen i ddod o hyd i'r botwm ‘Cyflwyno’ a chwblhau eich cais am wasanaeth.
Pwysig: wrth lenwi'r ffurflen dylid gofnodi'ch cyfeiriad yn awtomatig. Os nad yw'n ymddangos, teipiwch eich Cod Post (nid eich cyfeiriad) a dewiswch eich cyfeiriad o'r gwymplen.
Pwysig: ar ddiwedd y ffurflen bydd taflen grynodeb yn ymddangos fel y gallwch wirio a yw popeth wedi'i fewnbynnu'n gywir. Unwaith y byddwch yn hapus, cliciwch 'Cyflwyno' i gwblhau eich cais am wasanaeth.
Ar ôl i chi glicio 'Cyflwyno', bydd neges werdd yn ymddangos ar gornel dde eich sgrin i gadarnhau ei bod wedi'i chyflwyno. Sylwch: NID dyma'ch cadarnhad o'ch lle. Byddwch yn cael e-bost maes o law i gadarnhau a oes gennych le ai peidio.
Os ydych chi'n defnyddio dyfais symudol, trowch y ffôn ar ei ochr er mwyn i chi allu gweld y cyfarwyddiadau a'r botwm 'Cyflwyno' yn well.
Os sylwch nad oes slotiau ar gael yna bydd pob un wedi'i archebu. Daliwch ati rhag ofn y bydd ceisiadau'n cael eu gwrthod.
Bydd y nifer o ymweliadau ar-lein ellir eu harchebu wedi eu cyfyngu.
Dim ond un ymweliad a ganiateir i bob cartref yn ystod y cyfnod cychwynnol yma.
Sylwch: Byddwch yn derbyn e-bost ynghyd â chyfeirnod i ddweud a yw'ch cais yn llwyddiannus
Peidiwch â defnyddio'r neges gadarnhau ar ôl cwblhau'r cais hwn fel cymeradwyaeth ar gyfer y cais.