Er mwyn darganfod eich diwrnod casglu gwastraff a pryd fydd eich bin du a gwyrdd (tanysgrifwyr yn unig) yn cael eu casglu, chwiliwch drwy ddefnyddio eich cod post isod.
Diwrnod Casglu Bin
Os cewch unrhyw broblemau wrth ddod o hyd i’ch cyfeiriad neu os yw yn anghywir, adroddwch y mater wrth ddefnyddio’r ffurflen yma a mi wnawn sicrhau bod eich cyfeiriad yn cael ei atodi i’r basdata.
Cofiwch y bydd eich bocsys ailgylchu yn cael eu casglu yn wythnosol os gwelwch yn dda.
Y rheswm pam yr ydych angen rhoi eich gwastraff allan cyn 7yb ar ddiwrnodau casglu
Mae’r cerbydau casglu yn cymeryd llwybrau gwahanol ar rhai achlysuron felly efallai bydd yr amser y mae eich biniau a’ch trolibocs ailgylchu yn cael eu casglu yn newid o dro i dro.
Ar eich diwrnod casglu, cofiwch osod eich bin a’ch trolibocs ailgylchu allan cyn 7y.b i sicrhau eu bod yn cael eu gwagio.
Beth i’w wneud os yw casgliad wedi’i fethu
Rhaid rhoi gwybod i’r Cyngor am yr holl gasgliadau a fethwyd drwy gysylltu a’r Adain Gwastraff ar 01248 752860 erbyn dim hwyrach na 12yh ar yr ail ddiwrnod ar ôl y diwrnod casglu arferol, i sicrhau bod y gwastraff yn cael ei gasglu, ar yr amod y rhoddwyd y biniau a’r bocsys allan i’w casglu cyn 7 o’r gloch y bore.
Ymholiadau cyffredinol
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, defnyddiwch y Ffurflen Ymholiad Cyffredinol Rheoli Gwastraff.
Ffurflen ymholiadau cyfffredinol Gwasanaeth Gwastraff