Mae'r ail rownd o geisiadau grant yn agor Dydd Iau, Ebrill 23 am gyfnod o bedair wythnos.
Dyddiad cau yw Dydd Iau, Mai 21ain.
Mae’r Gronfa Ymateb Gymunedol Covid-19 wedi ei chreu er mwyn cefnogi prosiectau cymunedol hanfodol wrth iddynt ymateb i heriau eithriadol dros y misoedd nesaf.
Mae cyllid wedi’i flaenoriaethu gan Y Gymdeithas ac mae’r arian yn ei le ar gyfer y grwpiau elusennol hynny sydd mewn lle da i allu ymateb. Nod y cyllid ychwanegol hwn yw eu helpu nhw i gymryd y camau er mwyn gallu darparu’r gofal a’r gefnogaeth angenrheidiol hwn ar gyfer trigolion Ynys Môn yn ystod y cyfnod anodd yma.
Nid oes modd i unigolion ymgeisio am gyllid ac ni ellir defnyddio’r arian i gefnogi anghenion personol neu unigol. Ni allwn dderbyn ceisiadau gan fusnesau.
Cyfanswm y cyllid sydd ar gael - £94,000
Cyfanswm y grant ar gyfer bob sefydliad – hyd at £25,000
Nodau’r grant
- Lleihau tlodi cysylltiedig â Covid-19 drwy amrywiaeth o ymyraethau cefnogi.
- Darparu cymorth mewn perthynas ag anghenion iechyd megis sicrhau llesiant, cymorth meddygol.
- Sicrhau bod trigolion Ynys Môn yn cael eu darparu â chymorth dwys yn ystod y Pandemig Covid-19
Pa weithgareddau y gellir eu cefnogi?
Enghreifftiau o weithgareddau y gellir eu hariannu:
- Cyflenwadau bwyd/eitemau eraill er mwyn sicrhau parhad / ehangiad gwasanaethau er mwyn gallu bodloni anghenion pobl fregus
- Recriwtio a chefnogi gwirfoddolwyr er mwyn darparu capasiti ychwanegol
- Costau yn ymwneud a datblygiad safle neu hyb cymunedol newydd lle gall pobl gael mynediad haws at gefnogaeth a gwasanaethau cymunedol.
- Costau trafnidiaeth er mwyn galluogi gwasanaethau allgymorth neu er mwyn helpu pobl i ddarparu trafnidiaeth leol
- Cymorth cyfeillio ar gyfer pobl sydd ar eu pen eu hunain
- Offer a mesurau eraill er mwyn galluogi cymorth cymunedol i gael ei ddarparu’n ddiogel
Dyddiad cau yw Dydd Iau, Mai 21ain.
Rhaid dychwelyd y ffurflen gais i’r cyfeiriad isod.
Ebost: nedmichael@ynysmon.gov.uk
Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfa’r Sir
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW