Gallwch fod yn briod neu’n sengl, yn wahanrywiol neu’n hoyw, yn berchen ar eich cartref neu’n rhentu, yn gweithio llawn amser, rhan amser neu’n ddi-waith. Rhaid i chi fod dros 21 oed ac yn ddigon ffit i ofalu am blentyn, gydag ystafell wely sbâr yn eich cartref a dim euogfarnau am droseddau yn erbyn plant.
Hefyd bydd angen ymrwymiad, amynedd ac agwedd realistig ar gyfer y rôl heriol hon. Bydd angen i chi fod yn gyfrifol, yn hyblyg ac yn gyfeillgar. Bydd angen i chi allu cynnig amgylchedd sefydlog a chefnogol fel bod y plentyn yn eich gofal yn teimlo’n hapus a diogel.
Mae rhywfaint o brofiad o ofalu am blant yn fanteisiol - p’un ai gweithio gyda phlant neu fagu eich plant eich hun. Bydd yn ofynnol i chi fod â’r amser i gefnogi’r plant i gadw mewn cysylltiad gyda’u teuluoedd os yw hyn yn briodol. Bydd yn rhaid i chi fynychu hyfforddiant.
Beth bynnag yw eich cefndir, y rhinweddau sydd gennych i’w cynnig i faethu sy’n cyfri.