Ar hyn o bryd, mae Cyngor Sir Ynys Môn yn gweithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu Rhaglen Fuddsoddi wedi ei Thargedu tuag at Adfywio yng Nghaergybi.
Fel rhan o’r Cynllun, gall y Tîm Tai Gwag ddarparu cymorth ariannol cyfyngedig i landlordiaid / perchenogion tai gwag i ddod ag eiddo domestig yn ôl i ddefnydd ar gyfer tenantiaid sydd ar Gofrestr Dai Cyngor neu am rent fforddiadwy sydd o fewn terfyn y Lwfans Tai Lleol.
I fod yn gymwys ar gyfer eu hystyried, rhaid i’r eiddo fod yn dai teras neu’n dai pâr 2 lofft ac wedi eu lleoli yng Nghaergybi.
I gael eich ystyried ar gyfer y cynllun, a fyddech cystal â llenwi ffurflen Mynegiant o Diddordeb sydd ar gael drwy wneud cais i’r Tîm Tai Gwag drwy ebostio: swyddogtaigwag@ynysmon.gov.uk neu gan gwblhau’r ffurflen isod.
Sylwer nad oes modd gwarantu cynnig grant hyd nes bod y perchennog / landlord wedi derbyn cymeradwyaeth ffurfiol gan y Cyngor. Ni fyddai unrhyw waith a wnaed cyn cael cymeradwyaeth yn gymwys ar gyfer y grant a byddai ar eich cost chi.
- Mae’r math hwn o gymorth grant yn ddewisol
- Rhaid i'r eiddo fod wedi bod yn wag am o leiaf chwe mis ac angen ei adnewyddu
- Rhaid i’r eiddo fod yn dŷ teras neu’n dŷ pâr 2 lofft ac wedi ei leoli yng Nghaergybi
- Rhaid i’r ymgeiswyr fod yn berchennog (berchenogion) cofrestredig yr eiddo
- I fod yn gymwys i dderbyn cymorth grant, rhaid i berchennog yr eiddo ymrwymo i Gytundeb Hawl Enwebu gyda'r Cyngor am gyfnod o 5 mlynedd ac/neu gytuno ar rent fforddiadwy sydd o fewn terfynau’r lwfans tai lleol
- Rhaid cytuno ar y gwaith cymwys, ar ôl i’r Cyngor ei archwilio
- Rhaid cwblhau’r gwaith erbyn 28ain Chwefror 2020
- Dylid gosod yr eiddo i denantiaid oddi ar Gofrestr Dai’r Cyngor am gyfnod o bum mlynedd fel y pennir yn y Cytundeb Hawl Enwebu. Os na dderbynnir enwebiad cyn pen dau ddeg wyth niwrnod gwaith o gwblhau'r gwaith, gall y landlord osod yr eiddo yn annibynnol ar lefel rhent fforddiadwy nad yw’n uwch na chyfradd y Lwfans Tai Lleol ar gyfer y math hwnnw o annedd ar adeg ei gosod
- Bydd canran y grant y gellir ei gynnig yn 70% o gyfanswm cost y gwaith, hyd at uchafswm o £20,000
- Bydd angen tystiolaeth o gyllid digonol i gwrdd â’r diffyg rhwng cyfanswm cost y gwaith a’r grant a dderbyniwyd
- Sicrheir y grant fel pridiant tir lleol gyda'r Gofrestrfa Tir am gyfnod o bum mlynedd o ddyddiad cwblhau'r gwaith a rhaid ei ad-dalu'n llawn os yw'r ymgeisydd yn gwerthu'r eiddo cyn diwedd y cyfnod y cytunwyd arno neu yn torri amodau’r Cytundeb Hawl Enwebu
- Telir y grant ar ôl cwblhau'r gwaith pan fo'r grant o dan £10,000 ac mewn dwy ran, sef ar ôl gwneud 50% o’r gwaith ac ar ôl cwblhau'r gwaith pan fydd dros £10,000
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau yn ymwneud â’r cynllun neu amodau’r grant at:
Swyddog Tai Gwag
Cyngor Sir Ynys Môn
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW
Rhif Ffôn: 01248 752283 / 752301
E-bost: swyddogtaigwag@ynysmon.gov.uk