Dan yr amgylchiadau presennol a fyddai modd anfon pob llythyr / dogfen yn ymwneud â cheisiadau Budd-dal Tai / Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ar e-bost at budddaliadau@ynysmon.gov.uk
Os nad oes gennych fynediad i e-bost gallwch barhau i bostio’r llythyrau/dogfennau hyn i swyddfa’r Cyngor ond byddwch yn ymwybodol y gallai gymryd mwy o amser i brosesu’r post a dychwelyd unrhyw ddogfennau angenrheidiol atoch.
Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom byddwn yn cysylltu â chi, naill ai ar e-bost neu ar y ffôn.
Dysgwch sut i gael cymorth gyda Threth y Cyngor os ydych ar incwm isel.
Gallwch wneud cais p’un a ydych yn berchen ar eich tŷ eich hun, yn rhentu, yn ddi-waith neu’n gweithio.
Sut i gwneud cais Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor
Ar-lein
Cais Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor
neu
- Ffoniwch 01248 750057
- Drwy apwyntiad i fynychu i gwblhau’r ffurflen yng Nghyswllt Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, LL77 7TW neu i ymweld â chleientiaid bregus yn eu cartref i gwblhau’r ffurflen gais (Ffôn 01248 750057);
- Drwy apwyntiad i lenwi’r ffurflen dros y ffôn yn Swyddfeydd Adain Refeniw a Budd-daliadau, Swyddogaeth Adnoddau, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, LL77 7TW (Ffôn 01248 750057);
- Drwy apwyntiad i gwblhau’r ffurflen efo “partneriaid” cymeradwy hefo hyfforddiant priodol. Y rhai cyfredol yw -
- Canolfan JE O’Toole, Sgwâr Trearddur, Caergybi, LL65 1NB (Ffôn 01407 760208);
- unrhyw swyddfa Cyngor ar Bopeth sydd ar yr Ynys (Ffôn 01248 722652);
- Swyddfa Cymorth Tai, Cyngor Sir Ynys Môn, Sgwâr Trearddur, Caergybi, LL65 1NB (Ffôn 01407 765912) a Gwasanaeth Cwsmer Tai, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni (Ffôn 01248 750057); ac
- Swyddfeydd Digartref Ynys Môn, Caergybi (Ffôn 01407 765557)
Yn electronig drwy neu safleoedd hunan wasanaeth o fewn :-
- Cyswllt Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, LL77 7TW (Ffôn 01248 750057);
- Caffi Stesion y Llan, Yr Hen Stesion, Bridge Street, Llanerchymedd (Ffôn 01248 470481);
- Canolfan Iorwerth Rowlands, Steeple Lane, Biwmares, LL58 8AE (Ffôn 01248 811508);
- Llyfrgell Amlwch, Lôn Parys, Amlwch, LL68 9EA (Ffôn 01407 830145);
- Canolfan JE O’Toole, Sgwâr Trearddur, Caergybi, LL65 1NB (Ffôn 01407 760208);
- Canolfan Gymunedol Gwelfor, Ffordd Tudur, Morawelon, Caergybi LL65 2DH (Ffôn 01407 763518).
- Dogfen Fewnbwn Awdurdod Lleol yr Adran Gwaith a Phensiynau (LAID) a Gwybodaeth Cwsmer Awdurdod Lleol (LACI) lle maent yn datgan bwriad i hawlio Gostyngiad y Dreth Gyngor;
- Y ffurflenni Credyd Cynhwysol mewn ffurf electronig neu papur oddi wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau lle maent yn datgan bwriad i hawlio Gostyngiad y Dreth Gyngor:-
LCTR2 – ffurflen Gostyngiad y Dreth Gyngor Leol
LCTR3 - ffurflen Gostyngiad y Dreth Gyngor Leol
Os mai chi yw’r person sy’n hawlio Gostyngiad y Dreth Gyngor ac rydych yn meddwl bod penderfyniad a wnaed gennym am eich gostyngiad yn anghywir, dylech ysgrifennu atom:
- pa benderfyniad rydych yn anghytuno ag ef
- y rhesymau dros anghytuno ag ef
Gweler y fanylion cyswllt ar y dde.