Mae nifer o ffyrdd y gallwch dalu eich bil Treth Cyngor.
Debyd Uniongyrchol
Os yw hyn yn wir gall talu trwy Ddebyd Uniongyrchol fod yn hwylus gan mai dyma’r modd fwyaf syml a diogel i chwi dalu Bil y cyngor a dyma pam:
- Mae’r rheolaeth yn aros gyda chwi
- Cewch sicrwydd arian yn ôl
- Fe’i telir yn fisol ond dim ond un ffurflen sydd rhaid i chwi ei arwyddo ac fe fydd eich Banc neu Gymdeithas Adeiladu yn gwneud y gweddill
- Cewch anghofio sieciau, stampiau ac aros mewn ciw
- Mae yn llawer mwy diogel na thalu ag arian parod
- Mae’r dull hefyd yn llai costus ac yn fwy syml i’r cyngor ei weinyddu sydd felly yn mynd i fod yn
fuddiol i bawb yn y gymuned.
Os oes gennych unrhyw ymholiad, mae gennych amser i archwilio rhywbeth nad ydych yn ei ddeall neu yn cytuno ag ef, ac o dan reolau y Gwarant Debyd Uniongyrchol fe delir yn ôl i’ch cyfrif unrhyw daliad a wnaethpwyd, oedd yn torri termau y cyfarwyddyd.
Sut mae newid i Ddebyd Uniongyrchol?
Cysylltwch â ni.
Ar-lein
Gallwch wneud eich taliadau ar-lein gan ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd Visa a Mastercard.
Ewch i Taliadau ar-lein
Taliadau ffôn
Gallwch gysylltu â’r gwasanaeth drwy ffonio 0300 123 0800 ar unrhyw ffôn “touch-tone” a byddwch yn cael cyfarwyddiadau ar sut i dalu. Cofiwch bydd angen eich cerdyn credyd neu ddebyd ynghyd â chyfeirnod eich cyfrif neu anfoneb.
Bydd y gwasanaeth ar gael 24-awr, 7-diwrnod y wythnos. Codir tâl Gradd Cenedlaethol ar y rhif 0300 ar bob galwad yn ddifater os ydynt yn galw o linell ddaearol neu ffôn symudol.
Ni chaiff unrhyw dal(iadau) a wneir ar ôl 4.00 yp ei roi yn erbyn eich cyfrif tan (i fyny i) 3 diwrnod gwaith..
Noder: Ceir rhai eithriadau. Ni fydd y system yn derbyn taliadau am Rhenti Tai ble mae’r rhif rhent yn cynnwys llythrennau alffa rhifol.
Canolfan gyswllt cwsmer
Drwy ffonio 01248 751 844 rhwng 9.00 y.b. a 5.00 y.p. Gofalwch fod eich cerdyn debyd/credyd wrth law os gwelwch yn dda.
Siec drwy’r post
Gallwch wneud sieciau yn daladwy i ‘Cyngor Sir Ynys Môn’. Wnewch chi sicrhau, os gwelwch yn dda, fod rhif eich cyfrif Treth y Cyngor wedi’i ddyfynnu ar gefn y siec. Fe ddylech bostio eich siec i Gyngor Sir Ynys Môn, Blwch Post 29, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7ZF
Banc
Gallwch dalu trwy BACS i gyfrif banc cyffredinol y Cyngor rhif 79118615 yn National Westminster Bank, Cangen Llangefni, rhif côd 53-81-02. Wnewch chi sicrhau, os gwelwch yn dda, eich bod yn dyfynnu rhif eich cyfrif Treth Cyngor pan yn gwneud taliad. Fe all y banc godi tâl arnoch am y gwasanaeth yma.
Os byddwch yn cael trafferth defnyddio unrhyw un o’r dulliau talu hyn cysylltwch gyda ni, os gwelwch yn dda ar 01248 750057 yn ystod oriau agor 9am - 4pm
Gofyn am gopi o'ch bil
Gallwch ofyn i ni am gopi o'ch bil.