Gall unrhyw un dros 18 oed fod yn lywodraethwr ysgol – nid oes rhaid i chi fod yn riant gyda phlentyn yn yr ysgol. Gall bod yn lywodraethwyr ysgol ddod â bodlondeb drwy’r cyfle i wneud gwahaniaeth i rediad effeithiol ysgol.
Mae llywodraethwyr yn gweithio fel tîm i gyfrannu gwybodaeth ac arbenigedd i wneud penderfyniadau ar y cyd ar gyfer yr ysgol. Fel llywodraethwr, rydych yn ennill sgiliau a phrofiad trosglwyddadwy y gall fod o fudd i chi yn bersonol ac yn broffesiynol.
Mae hyfforddiant am ddim hefyd yn cael ei ddarparu bob tymor ar nifer o bynciau sy’n hanfodol i’ch cefnogi yn eich rôl.
Cyn i chi ystyried gwneud cais, sicrhewch eich bod wedi ystyried y sgiliau sydd eu hangen a’r gallu i ymrwymo’n llawn i’r rôl. Fel llywodraethwr, dylech allu:
Mynychu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd llywodraethwyr yn rheolaidd (mae’n rhaid i gyrff llywodraethu gyfarfod o leiaf unwaith y tymor, yn ogystal â chyfarfodydd pwyllgor)
- mynychu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd llywodraethwyr yn rheolaidd (rhaid i gyrff llywodraethu gwrdd o leiaf unwaith y tymor, ynghyd â chyfarfodydd pwyllgor)
- mynychu hyfforddiant gorfodol a ddarperir gan yr awdurdod lleol
- mynychu sesiynau hyfforddiant eraill i wella eich gwybodaeth a’ch arbenigedd
- treulio amser yn dod i adnabod yr ysgol drwy ymweliadau llywodraethwr cyswllt/teithiau dysgu
- cymryd rhan mewn paneli eraill megis penodiadau, staffio, materion disgyblion a chwynion
- parchu cyfrinachedd bob amser
- glynu at god ymddygiad eich corff llywodraethu bob amser
Gwneud cais i fod yn llywodraethwr ysgol
Rhiant lywodraethwyr
Etholir rhiant lywodraethwyr fel cynrychiolwyr i fuddion rhieni’r disgyblion sy’n mynychu’r ysgol ar hyn o bryd ac i roi safbwynt rhiant ar benderfyniadau y gall y bwrdd llywodraethu fod yn eu gwneud. Hysbysir rhieni o leoedd gwag mewn rolau rhiant lywodraethwr yn yr ysgol. Os dymunwch wybod pa bryd fydd y swydd wag nesaf yn dod ar gael yn ysgol eich plentyn, cysylltwch â’r ysgol yn uniongyrchol.
Gall rhiant lywodraethwr barhau i wasanaethu fel llywodraethwr nes diwedd eu cyfnod pedair blynedd yn y swydd, hyd yn oed os yw eu plentyn yn gadael yr ysgol yn ystod y cyfnod hwnnw.
Llywodraethwyr awdurdod lleol
Dylai unigolion a enwebir fel llywodraethwyr awdurdod Lleol allu arddangos:
- ymrwymiad a diddordeb mewn addysg
- awydd i gefnogi’r ysgol dan sylw
- parodrwydd i wasanaethu’r gymuned leol
- sgiliau a phrofiad a fydd yn cefnogi gwaith yr ysgol
- y gallu i weithio fel aelod o dîm
- y radd ofynnol o ddisgresiwn a chyfrinachedd
- parodrwydd i roi’r amser gofynnol i gyflawni rhwymedigaethau i’r corff llywodraethu
- empathi gydag amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol y Sir, yn arbennig o ran cefnogi’r Gymraeg
- parodrwydd i gefnogi dyheadau a bwriadau strategol y Sir
- ymrwymiad i fynychu hyfforddiant llywodraethwyr
Yn ogystal â hyn, ni ddylai enwebeion llywodraethwyr awdurdod lleol:
fod wedi eu hanghymhwyso yn fwriadol rhag gwasanaethu fel llywodraethwr ysgol
fod yn weithiwr yn yr ysgol
Dylai eich cynghorydd lleol fod yn ymwybodol o unrhyw swyddi gwag llywodraethwr ALl yn y ward etholiadol.
Gwnewch gais i fod yn lywodraethwr awdurdod lleol
Llywodraethwyr cymuned
Gwahoddir y llywodraethwyr hyn gan lywodraethwyr eraill i ymuno â’r corff llywodraethu, a chânt eu penodi gan y corff llywodraethu.
Mae aelodau o’r gymuned yn dod a’u profiad a’u sgiliau eu hunain i’r corff llywodraethu a gallent weithredu fel cyswllt â’r gymuned y mae’r ysgol yn ei gwasanaethu.
Mae llywodraethwyr cymuned gan amlaf yn byw neu’n gweithio yng nghymuned ardal yr ysgol ac yn ymrwymedig i lywodraethiant da a llwyddiant yr ysgol.