Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Dewch yn rhan o Wythnos Addysg Oedolion!

Wedi'i bostio ar 12 Mehefin 2019

Mae oedolion o bob oed yn cael eu hannog i roi cynnig ar amrywiaeth o weithgareddau addysgol yn ystod Wythnos Addysg Oedolion (17-23 Mehefin).

Mae’r digwyddiad sy’n para wythnos yn ddathliad blynyddol o’r amrywiaeth o gyfleoedd addysgol sydd ar gael yn y gymuned. Mae’n rhoi cyfle i bobl roi cynnig ar rywbeth newydd a gwahanol.

Thema eleni yw hanes ac archeoleg Ynys Môn. Os ydych dros 16 oed – ymunwch yn y gweithgareddau a rhowch gynnig ar rai o’r pethau sy’n cael eu cynnig yn lleol.

Mae’r gweithgareddau sy’n cael eu cynnig yn cynnwys ymweliad ag Oriel Môn, Llangefni er mwyn gallu gweld a chael gwell syniad am yr arteffactau archeolegol sydd wedi eu cynnwys yn yr arddangosfa archeolegol yno. Mae gweithdai creadigol hefyd ar gael drwy gydol yr wythnos lle gallwch greu mosäig a graffiti. Galwch heibio i ddangos eich dawn greadigol – a chael eich ysbrydoli gan batrymau’r oes Neolithig!

Mae yna hefyd gyfleoedd gwirfoddoli drwy gydol yr wythnos yn siambr gladdu Bryn Celli Ddu, Llanddaniel, lle gallwch gymryd rhan mewn cloddfa archeolegol gyda CADW.

Daw gweithgaredd arall sydd wedi’i drefnu gan Wici Môn; prosiect ar y we sy’n creu erthyglau cyfrwng Cymraeg ac sy’n catalogio erthyglau am hanes a diwylliant Ynys Môn. Os ydych yn gwybod am unrhyw ffeithiau neu straeon diddorol am yr Ynys, eich pentref neu eich plwyf, fe’ch anogir i alw heibio a’u rhannu gyda disgyblion Ysgol Rhyd y Llan (Llanfaethlu). Bydd y plant wedyn yn dangos i chi sut i lwytho’r wybodaeth ar y we!

Eglurodd Llyfrgellydd Cymunedol Ynys Môn, Bethan Hughes-Jones “Nod Wythnos Addysg Oedolion yw ceisio annog mwy o bobl i gymryd y cam cyntaf yn ôl i mewn i addysg. Mae’r wythnos hon hefyd yn ddathliad o’r nifer gynyddol o oedolion yng Nghymru sydd wedi cyfoethogi eu bywydau a gwella eu rhagolygon drwy addysg a hyfforddiant.”

Ychwanegodd y deilydd portffolio ar gyfer Addysg, y Cynghorydd Meirion Jones, “Nid yw neb byth yn rhy hen i ddechrau ar daith ddysgu.  Mae addysg gydol oes yn eithriadol o bwysig o ran parhad datblygiad personol a dylid manteisio ar gyfleoedd newydd pan fônt yn codi.”

“Gall addysg bellach a gwybodaeth agor nifer o ddrysau ar unrhyw adeg mewn bywyd a byddwn yn annog oedolion sydd â diddordeb i fynd i'r digwyddiadau diddordol yma neu gysylltu gyda'r Cyngor am ragor o wybodaeth."

Am fwy o wybodaeth am Wythnos Addysg Oedolion a’r digwyddiadau a gynhelir ar Ynys Môn, cysylltwch â Bethan Hughes-Jones drwy ffonio (01248) 752091 neu anfonwch neges e-bost at bmhlh@ynysmon.llyw.cymru

Am fwy o wybodaeth ar ddigwyddiadau dysgu a gweithgareddau am ddim yn eich ardal gallwch hefyd ymweld â: https://adultlearnersweek.wales/cy/  neu https://cymrungweithio.llyw.cymru/.


Wedi'i bostio ar 12 Mehefin 2019