Bydd yr Awdurdod Lleol yn rhoi darpariaeth addysgol addas a pherthnasol i bob plentyn sydd ag anghenion dysgu ychwanegol i sicrhau y gallent ddatblygu i’w llawn botensial.
Asesir y lefel angen gan weithwyr proffesiynol perthnasol yng Ngwasanaeth ADY a Chynhwysiad Gwynedd a Môn, ac mae hyn yn penderfynu ar y drafnidiaeth a ddarperir. Bydd cludiant yna’n cael ei ddarparu’n unol â’r cyngor a roddir ac yn cael ei adolygu’n rheolaidd.
Os oes gan blentyn Ddatganiad o Anghenion Dysgu Ychwanegol neu Gynllun Datblygu Unigol (CDU), efallai y bydd cludiant ysgol yn cael ei gynnwys fel rhan o’r darpariaethau anaddysgol a wneir ar gyfer y plentyn fel rhan o’i ddatganiad/CDU. Os ydyw, bydd cludiant yn cael ei ddarparu.
Os nad yw cludiant ysgol yn cael ei gynnwys yn Natganiad/CDU plentyn, efallai y bydd dal yn gymwys am gludiant cartref i’r ysgol dan y polisi os mai’r ysgol y mae’n ei mynychu yw’r ysgol addas agosaf sydd gan le ynddi neu os yw wedi mynychu ysgol fwydo gynradd ddynodedig ar gyfer ysgol uwchradd benodol; yn amodol ar y meini prawf cymhwystra’n cael eu cwrdd. Bydd unrhyw gais am gludiant yn cael ei wneud drwy adolygiad o anghenion y disgybl gan yr ysgol. Bydd yr ysgol yna’n cyflwyno’r cais i’w ystyried gan y Panel Cymedroli drwy’r Cynllun Datblygu Unigol. Cysylltwch â Chydlynydd ADY eich ysgol er mwyn trafod y mater ymhellach.
Noder efallai na fydd cludiant am ddim yn cael ei ddarparu os yw rhieni / gofalwyr yn ymarfer eu hawl i ddewis ysgol nad yw’n ysgol addas agosaf.