Os bydd tywydd garw, a bod yr ysgol neu goleg yn agored, penderfyniad y darparwr cludiant byddai os bydd gwasanaeth cludiant, yn dibynnu ar:
- yr amodau tywydd ar y pryd
- y rhagolwg tywydd ar gyfer hyd at 9am ac ar gyfer gweddill y dydd
- lleoliad y llwybr a lleoliad y gweithredwr
- ac amodau yn yr ysgol neu goleg.
Dylai rhieni/myfyrwyr wirio'r sefyllfa gyda'r darparwr cludiant neu gysylltu â cludiantysgol@ynysmon.llyw.cymru.
Os bydd tywydd gwael yn atal cludiant ysgol neu goleg rhag gweithredu yn y bore, ni fydd unrhyw wasanaeth dychwelyd y prynhawn hwnnw hyd yn oed os bydd y tywydd yn gwella. Yn yr achosion hyn, os yw rhieni/gofalwyr yn mynd a myfyrwyr i'r ysgol neu goleg eu hunain, maent wedyn yn gyfrifol am ddod â’r myfyrwyr adref eto ar ddiwedd y dydd, neu'n gynharach os bydd yr ysgol neu goleg yn cau oherwydd fod y tywydd yn gwaethygu.
Y pennaeth sy'n gwneud y penderfyniad i gau ysgol, yn dilyn asesiad risg sy'n seiliedig ar nifer o ffactorau. Rhaid gwneud y penderfyniad hwn heb wybod yn union sut y bydd y tywydd yn symud ymlaen yn ystod y dydd.
Bydd gwybodaeth ynglŷn â chau ysgolion/colegau unigol oherwydd tywydd garw yn cael ei rhoi ar wefan Cyngor Sir Ynys Môn cyn gynted â phosibl a bydd cyhoeddiadau'n cael eu gwneud ar Môn FM. Gweler hefyd wefannau ysgolion unigol.
Ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, dylai teithwyr holi darparwyr cludiant cyn teithio neu gysylltu â:
- Cyngor Sir Ynys Môn ar 01248 752459
- Traveline Cymru ar 0871 200 22 33